Cafodd y wybodaeth hon ei diweddaru ar 19/04/2024

Yn ôl i’r hidlyddion

Lwytho cyfrifon

Opens in a new tab

Gwybodaeth Gyffredinol ar Gyfrifon

Cynnal y Cyfrif

Mae darparwr y cyfrif yn gweithredu'r cyfrif i'w ddefnyddio gan y cwsmer. Mae rhai cyfrifon yn codi ffi fisol neu flynyddol sy'n talu costau’ch banc er mwyn rhedeg eich cyfrif.

Cael gwybod mwy cynnal y cyfrif
Blaendal misol gofynnol

Efallai y bydd rhai cyfrifon yn gofyn i chi dalu swm penodol i mewn bob mis. Os na allwch chi wneud hyn, efallai y codir ffi arnoch neu efallai y byddwch yn cael eich symud i gyfrif arall.

Gorddrafftiau

Gorddrafft a drefnwyd

Mae darparwr y cyfrif a’r cwsmer yn cytuno o flaen llaw y gall y cwsmer fenthyg arian pan nad oes arian ar ôl yn y cyfrif. Mae’r cytundeb yn pennu'r uchafswm y gellir ei fenthyg, ac os bydd rhaid i'r cwsmer dalu ffioedd neu log. Fel arfer bydd taliadau pellach am fynd dros y trothwy hwnnw. Eich banc neu gymdeithas adeiladu ddylai benderfynu a fyddant yn derbyn eich gorddrafft, a bydd gan wahanol ddarparwyr wahanol reolau.

Cael gwybod mwy gorddrafft a drefnwyd
Gorddrafft heb ei Drefnu

Mae’r cwsmer yn benthyg arian pan nad oes arian ar ôl yn y cyfrif (neu pan fydd y cwsmer wedi mynd dros ei derfyn gorddrafft a drefnwyd) ac nid yw hyn wedi ei gytuno gyda darparwr y cyfrif o flaen llaw. Gall ffioedd fod yn ddyddiol, wythnosol neu fesul trafodyn, ond maent fel arfer wedi eu cyfyngu i uchafswm bob mis.

Cael gwybod mwy gorddrafft heb ei drefnu
Gwrthod taliad gan nad oes digon o arian

Mae darparwr y cyfrif yn gwrthod taliad o gyfrif y cwsmer gan nad oes digon o arian ynddo (neu byddai'n mynd â’r cwsmer dros derfyn gorddrafft a drefnwyd). Efallai bydd rhaid i chi dalu ffi bob tro bydd hyn yn digwydd.

Cael gwybod mwy gwrthod taliad gan nad oes digon o arian
Caniatáu taliad er nad oes digon o arian

Mae darparwr y cyfrif yn caniatáu taliad o gyfrif y cwsmer er nad oes digon o arian ynddo (neu byddai'n mynd â’r cwsmer dros derfyn gorddrafft a drefnwyd). Gall ffioedd a godir ar gyfer y trafodyn hwn fod yn ddyddiol, wythnosol neu fesul trafodyn, ond maent fel arfer wedi eu cyfyngu i uchafswm bob mis.

Cael gwybod mwy caniatáu taliad er nad oes digon o arian

Cerdyn debyd

Ffi gyhoeddi cerdyn debyd

Mae darparwr y cyfrif yn codi tâl am gyhoeddi’r cerdyn debyd gwreiddiol

Ffi amnewid cerdyn debyd

Mae darparwr y cyfrif yn codi tâl am amnewid cerdyn debyd sydd wedi ei golli neu ddwyn

Taliad cerdyn debyd mewn punnoedd

Mae’r cwsmer yn defnyddio ei gerdyn debyd i wneud taliad mewn punnoedd. Gall hyn fod mewn siop, ar-lein neu dros y ffôn.

Taliad cerdyn debyd mewn arian tramor

Mae’r cwsmer yn defnyddio ei gerdyn debyd i wneud taliad mewn arian tramor. Gall hyn fod mewn siop, ar-lein neu dros y ffôn.

Tynnu arian parod

Tynnu arian parod mewn punnoedd yn y DU

Mae’r cwsmer yn codi arian o gyfrif y cwsmer mewn punnoedd o beiriant codi arian, banc neu Swyddfa’r Post yn y Deyrnas Unedig. Gall peiriannau codi arian godi tâl yn ogystal ag unrhyw daliadau gan ddarparwr y cyfrif.

Tynnu arian parod mewn punnoedd tu allan i’r DU

Mae’r cwsmer yn codi arian o gyfrif y cwsmer mewn arian tramor o beiriant codi arian neu, os ar gael, mewn banc tu allan i'r Deyrnas Unedig. Gall peiriannau codi arian godi tâl yn ogystal ag unrhyw daliadau gan ddarparwr y cyfrif.

Taliadau

Debyd uniongyrchol

Mae’r cwsmer yn caniatáu i rywun (derbynnydd) gyfarwyddo darparwr y cyfrif i drosglwyddo arian o gyfrif y cwsmer i’r derbynnydd. Yna mae darparwr y cyfrif yn trosglwyddo'r arian i'r derbynnydd ar ddyddiad neu ddyddiadau a gytunwyd gan y cwsmer a’r derbynnydd. Gall y swm amrywio.

Archeb Sefydlog

Mae darparwr y cyfrif yn gwneud trosglwyddiadau rheolaidd, ar gyfarwyddyd y cwsmer, o swm sefydlog o arian o gyfrif y cwsmer i gyfrif arall.

Anfon arian o fewn y DU

Mae darparwr y cyfrif yn trosglwyddo arian, ar gyfarwyddyd y cwsmer, o gyfrif y cwsmer i gyfrif arall yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer o fanciau nawr yn defnyddio Taliadau Cyflymach i drosglwyddo arian, sy'n gwneud taliadau yn gyflym iawn, fel arfer o fewn ychydig oriau. Fel arfer bydd taliadau CHAPs yn cael eu setlo ar yr un diwrnod busnes ag y byddant yn cael eu cyflwyno, ar yr amod fod y taliad wedi ei wneud gyda’r banc cyn 3pm, ac maent yn cynnwys cost trafodyn. Maent yn dueddol o gael eu defnyddio ar gyfer taliadau gwerth uwch, sydd eu hangen yn fuan.

Anfon arian y tu allan i’r DU

Mae darparwr y cyfrif yn trosglwyddo arian, ar gyfarwyddyd y cwsmer, o gyfrif y cwsmer i gyfrif arall tu allan i'r Deyrnas Unedig. Os oes angen i'r arian gyrraedd yn gynt, bydd y ffi yn uwch. Efallai y bydd ffioedd hefyd yn uwch yn ddibynnol ar i ba wlad neu fanc mae’r arian yn cael ei anfon.

Cael gwybod mwy anfon arian y tu allan i’r du
Derbyn arian o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig

Pan fydd arian yn cael ei anfon i gyfrif y cwsmer tu allan i'r Deyrnas Unedig. Efallai y bydd ffioedd yn uwch yn ddibynnol ar o ba wlad neu fanc mae’r arian yn cael ei anfon.

Ffioedd neu daliadau eraill

Canslo siec

Taliadau a godir pan fydd y cwsmer yn gofyn i ddarparwr y cyfrif ganslo siec mae’r cwsmer wedi ei ysgrifennu.

Math o gyfrif

Cyfrifon cyfredol safonol
  • Cyfrif banc diofyn ar gyfer bancio bob dydd.
  • Addas i’r rhan fwyaf o bobl.
  • Fel arfer yn cynnwys gorddrafft, cardiau debyd, tynnu arian ayyb.
Cyfrifon banc sylfaenol heb ffioedd
  • Wedi’u cynllunio ar gyfer pobl gyda sgôr credyd gwael ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer cyfrif cyfredol safonol.
  • Nodweddion tebyg i gyfrifon cyfredol.
  • Nid yw’n cynnwys gorddrafft.
Cyfrifon i fyfyrwyr
  • Dim ond ar gael i brentisiaid neu fyfyrwyr llawn amser.
  • Yn aml yn dod gyda chymhellion megis cardiau rheilffordd neu arian yn ôl.
  • Yn aml yn cynnig gorddrafft di-log.
Cyfrifon i raddedigion
  • Dim ond ar gael i raddedigion.
  • Yn aml yn dod gyda chymhellion megis yswiriant teithio.
  • Wedi’u cynllunio i gefnogi’r cyfnod pontio o orddrafft di-log y cyfrifon i fyfyrwyr.
Cyfrifon Premiwm
  • Wedi’u cynllunio ar gyfer cwsmeriaid incwm uchel.
  • Fel arfer mae ganddynt feini prawf cymhwyso llym.
  • Yn aml yn cynnwys gwobrau a chymhellion.
Cyfrifon e-arian
  • Wedi’u cynllunio i’w defnyddio ar-lein a gyda ffonau clyfar.
  • Yn aml yn cynnwys offer cyllidebu.
Cyfrifon pecyn
  • Yn cynnig buddion ychwanegol megis yswiriant, arian yn ôl a phwyntiau gwobrwyo.
  • Yn aml bydd angen talu ffi fisol.

Nodweddion cyfrif

Cyfleusterau gorddrafft
  • Cyfrifon sy’n caniatáu i chi ddefnyddio mwy o arian nac sydd yn y cyfrif dros dro. Nodwch fod gorddrafft yn cael ei gynnig ar sail eich amgylchiadau.
Dim ffioedd misol
  • Cyfrifon nad ydynt yn gofyn i chi dalu swm gofynnol bob mis i gynnal y cyfrif.
Canghennau cerdded i mewn
  • Cyfrifon gan fanciau sydd â changhennau stryd fawr.
Bancio swyddfa’r post
  • Cyfrifon sy’n caniatáu i chi fancio trwy swyddfa’r post.
Agored i gwsmeriaid newydd
  • Cyfrifon sydd ar gael i gwsmeriaid newydd. Nid oes yn rhaid bod gennych fath gwahanol o gyfrif gyda’r banc yn barod i ymgeisio am y cyfrifon hyn.
Llyfrau siec ar gael
  • Cyfrifon lle mae llyfr siec yn cael ei roi neu ar gael o ofyn am un.
Yn cefnogi newid o fewn 7 niwrnod
  • Cyfrifon sy’n caniatáu i chi drosglwyddo’r holl Ddebydau Uniongyrchol a gorchmynion sefydlog o’ch hen gyfrif i’r un newydd yn awtomatig o fewn 7 niwrnod.
Ap symudol ar gael
  • Cyfrifon gan fanciau sy’n cynnig apiau symudol.
Dim cyfeiriad yn y DU yn ofynnol
  • Cyfrifon nad yw cyfeiriad yn y DU yn ofynnol er mwyn i chi agor y cyfrif.

Symleiddio’r canlyniadau

Symleiddiwch eich canlyniadau trwy ddewis dim ond y mathau o ffioedd a chostau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. Byddwn yn ei gwneud hi’n haws i chi gymharu’r ffioedd y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt trwy ddangos y mathau o ffioedd yr ydych chi’n eu dewis gan ddefnyddio’r blychau ticio isod yn unig.